Capel Newydd
Lle
Mae'r capel ar y Stryd Fawr yn Nhalsarnau. Mae maes parcio tu ôl i’r adeilad.
11 Stryd Fawr, Talsarnau, Gwynedd LL47 6TY
Amseroedd
Dydd Sul 10:30 - Cyfarfod Gweddi i oedolion ac Ysgol Sul i blant a phobl ifanc. Yn achlysurol rydym yn cynnal oedfa bregethu (gweler calendr).
6:00 - Oedfa bregethu (pob nos Sul).
Mae croeso i bawb i gyfarfodydd yr eglwys. Rydym yn awgrymu eich bod yn dod am 6:00 ar nos Sul ar eich ymweliad cyntaf. Mae'r oedfa yma yn cynnwys canu emynau, darllen o'r Beibl, gweddio a phregeth yn ganolbwynt i'r oedfa.
Nos Fercher 7:30 - Cynhelir Astudiaeth Feiblaidd a seiat rhwng mis Medi a mis Mehefin.
Cynhelir cyfarfodydd achlysurol eraill fel Cyfarfodydd i ferched , oedfa Diolchgarwch, oedfa bregethu yn Salem Cefncymerau, boreau a nosweithiau coffi. Mae mwy o fanylion ar 'Facebook'.
Capel Newydd, Talsarnau